
DOD O HYD I ANTUR
Archwilio Mynyddoedd Cambria trwy…
Y farn yw mai Mynyddoedd Cambria yw gwylltir mawr olaf Cymru. Mae eu copaon uchel a’u dyffrynnoedd serth yn golygu bod hwn yn lle chwarae anturus naturiol i'w archwilio. Mae hefyd yn dawel iawn, sy'n golygu y gallwch chi reidio neu heicio drwy'r dydd heb weld enaid arall.
​
Gallwch hefyd deithio o'r copa i'r môr mewn ychydig dros 30 munud, neu ychydig yn fwy hamddenol ar feic neu ar droed. Dim ond taith o 25 munud yw hi i Barc Beicio Dyfi lle mae llwybrau sy’n tanio’r adrenalin, neu beth am brofi eich dycnwch yn y gwyllt yng Nghoedwig Dyfi?
​​
Peidiwch â cholli cyfle i wylio’r adar yn y guddfan Gweilch yng Nghoedwig Hafren gerllaw. Cewch eu gwylio nhw’n disgyn a phlymio uwchben y pysgotwyr a'r morwyr ar Lyn Clywedog.
​
Yr ochr arall i Goedwig Hafren gallwch fynd am brofiad oddi ar y ffordd gyda Yamaha Off Road Experience, lle gall Geraint, Rowan a Dylan eich dysgu a'ch tywys ar ddiwrnod o hwyl a sbri ar ddwy olwyn o amgylch y goedwig a Chwm Elan.
​
Mae rhywbeth i'w wneud i bawb, boed fawr neu fach ...

Y tu allan i’r porthdy…
Hwylio ar Lyn Clywedog gerllaw


Breuddwyd Beicwyr Ffordd, dringfeydd clasurol a ffyrdd arfordirol o'r drws
Wedi’i dynodi fel ardal Awyr Dywyll

Pysgota plu ar Lyn Clywedog

Beicio mynydd yng Nghoedwig Hafren/Dyfi

Chwaraeon modur, Ysgol Enduro Yamaha/Rali’r Byd yng Nghoedwig Hafren

Stiwdio ioga llawn offer

Milltiroedd ar filltiroedd o deithiau cerdded gan gynnwys Llwybr Glyndwr

Gwylio adar, yn enwedig y Gweilch a'r Barcutiaid Coch

Gwarchodfa Natur Glaslyn a milltiroedd ar filltiroedd o leiniau gwylltion

Caiacio a chanŵio ar yr afonydd a'r llynnoedd cyfagos
